Nod yr Adran Ddrama yw meithrin a datblygu sgiliau creadigol a chymdeithasol ein disgyblion fel y gallant fod yn aelodau hyderus ac ystyriol o’n cymuned ysgol a’ r gymuned ehangach. Mae’r cwricwlwm thematig rydym yn cynnig yn cyfoethogi sgiliau traws bynciol a’r disgyblaethau o fewn y celfyddydau mynegiannol. Yn ein gwersi, caff disgyblion brofiadau cyson i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg, cyfleoedd i ddadansoddi testunau aml diwylliannol a chyfleoedd i ddehongli cymeriad drwy berfformio i gynulleidfa. Drwy gydweithio cyson gydag eraill fel pâr neu grŵp, ynghÿd â gwaith annibynnol; hyderwn y bydd Drama yn helpu i ddatblygu unigolion ac arweinwyr llwyddiannus, pa bynnag yrfa y bydd ein disgyblion yn ei ddewis.