Fel ysgol, rydym yn brofiadol wrth arwain ar ddysgu proffesiynol o fewn yr ysgol ac i aelodau o staff ysgolion eraill y Consortiwm.

Cawsom brofiad gwerthfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynllunio a darparu rhaglenni o’r radd uchaf i Gynghrair y Cyfnod Sylfaen, Cadwyn Cynradd a Gyda’n Gilydd yn y sector uwchradd. Ers 2019, dewiswyd ni fel unig ysgol cyfrwng Cymraeg y Gynghrair Ddysgu Proffesiynol ac arweiniodd hyn at y cyfle i arwain rhaglenni ar feysydd megis ymchwil weithredol a mentora a hyfforddi. Ymfalchiwn yn y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn arwain ar raglen Uwch Arweinwyr, yn genedlaethol, ar ran y Consortiwm.  Mae’r athrawon sy’n arwain ac yn cyfrannu at y rhaglenni yn elwa yn bersonol ac yn dysgu’n broffesiynol ond mae cymryd rôl flaenllaw fel yma wedi cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion yn ogystal.