Nod yr Adran Tystysgrif Her Sgiliau yw datblygu sgiliau a hyder ein holl ddisgyblion a’u paratoi i fod yn ddinasyddion byd-eang sydd yn perthyn i gymdeithas ble ymarferir hawliau teg a chyfartal. Rydym am ddatblygu disgyblion sy’n cyfrannu i’w cymdeithas a chydag ymwybyddiaeth gref o’r byd o’u cwmpas. Mae ein cwricwlwm yn dilyn pedair her (modiwl) er mwyn ennill y cymhwyster TGAU. Rydym am feithrin dinasyddion egwyddorol a gwybodus drwy’r Her Gymunedol. Ehangir ar allu dysgwyr i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol drwy’r Her Menter & Chyflogadwyedd. Hybir sgiliau datrys problemau, a meddwl yn feirniadol yn arbennig drwy’r Her Dinasyddiaeth Byd Eang. Drwy’r Prosiect Unigol rhoddir rhwydd hynt i’r dysgwyr fod yn uchelgeisiol a galluog gydag arweiniad pwrpasol.