Mae’r Adran TGCh yn anelu i ddarparu cwricwlwm cyffrous sy’n datblygu’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn i’n disgyblion  lwyddo ymhob agwedd o fywyd. Nod yr Adran yw cyflwyno TGCh fel rhan annatod o gymdeithas yn y cartref ac ym myd gwaith a hamdden. Darparwn gwricwlwm eang, sy’n ysgogi diddordeb, chwilfrydedd a mwynhad o’r pwnc.

Dysgwn ein disgyblion i:

  • ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd
  • gadw’n ddiogel ar-lein
  • ddeall egwyddorion a chysyniadau sylfaenol Cyfrifiadureg
  • ddatblygu sgiliau datrys problemau trwy rymuso disgyblion i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymol a beirniadol.
  • ystyried yr effaith moesegol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y defnydd o dechnoleg ddigidol ar unigolion, sefydliadau a chymdeithas