Or theatr i Drydar, mae iaith a llenyddiaeth ymhob man. Ein bwriad ni yn yr Adran Saesneg, felly, yw agor llygaid ein disgyblion i’r byd sydd o’n hamgylch a’u hannog i ddadansoddi, cwestiynu a gwerthfawrogi’r hyn yr ydym i gyd yn gweld, clywed a darllen o ddydd i ddydd. Trwy astudio ystod eang o themâu a thestunau ysgogol a heriol, o’r clasuron i’r cyfoes, bwriadwn ddatblygu dysgwyr hyderus, penagored, creadigol ac annibynnol, gan gynnal eu hanghenion unigryw.

Tra yma, caiff disgyblion y cyfle i brofi ac arbrofi gydag amrywiaeth o ffurfiau ac arddulliau megis nofelau, straeon byr, meicro-ffuglen, nofelau graffig, dramâu, barddoniaeth ac ysgrifennu ffeithiol. Yn ogystal, darperir cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio technoleg er mwyn gweithio a rhyngweithio gydai gilydd a chynhyrchu gweithiau digidol diddorol a ddyfeisgar megis podcastau, darllediadau, hysbysebiau a ffilmiau byr.

Mi fydd disgyblion hefyd yn dysgu sut mae fframior hyn y maent yn astudio o fewn cyd-destun modern, byd-eang sy’n berthnasol i’w bywydau a’r oes maent yn perthyn iddi, gan adeiladu sgiliau cyfathrebu cadarn i’w cynorthwyo i wynebu heriau’r dyfodol.