Yn yr Adran Fathemateg darparwn brofiadau cyffrous a chyfoethog i bob dysgwr. Paratown ein dysgwyr i ddatblygu i fod yn unigolion hyderus a rhifyddol sy’n gallu delio gyda phob agwedd o fathemateg o fewn y llwybr gyrfaoedd a ddewisiant ac o fewn pob agwedd o fywyd fel oedolyn.

Cyflawnwn hyn gyda’n hymrwymiad i addysgu a dysgu rhagorol, gwersi amrywiol sy’n ysgogi ac annog pob dysgwr, a chwricwlwm cadarn, cyflawn a gwahaniaethol sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr Ysgol Llanhari. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’n dysgwyr fel y gallant gyflawni eu llawn botensial. Datblygant sgiliau dadansoddi, rhesymu, creadigrwydd, cydweithio a hunan-werthuso er mwyn datrys problemau mathemategol.