Nod yr Adran Hanes yw datblygu sgiliau a gwybodaeth hanesyddol ein holl ddisgyblion, a’u paratoi i fod yn ddinasyddion gwybodus am eu hetifeddiaeth. Rydym am ddatblygu haneswyr brwdfrydig sydd yn deall eu hanes nhw fel Cymry, Prydeinwyr ac fel aelodau o’r byd ehangach. Mae ein cwricwlwm, sydd yn dilyn strwythur cronolegol, yn sicrhau bod ein disgyblion yn astudio amrywiaeth o gyfnodau a digwyddiadau arwyddocaol megis Yr Oesoedd Canol, Y Chwyldro Diwydiannol, Rhyfeloedd y Byd a’r Holocost. Nod y themâu hyn yw sicrhau bod ein disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o sut yn union y daeth y byd o’ u cwmpas i fod a ble mae nhw yn ffitio mewn i’r stori yma. Fel adran rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu ymrwymiad y disgyblion trwy gynnal gwersi diddorol a bywiog syn ffocysu ar drafodaethau mawr y byd Hanes.