Mae’r adran Gwyddorau Cymdeithasol yn cwmpasu 3 phwnc o fewn y cwricwlwm; Cymdeithaseg, Seicoleg, lechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae’r tri phwnc yn canolbwyntio ar astudiaeth o’r gymdeithas a phobl, y modd y mae pobl yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar y byd o’n cwmpas, ynghyd â’r dylanwadau ar ddatblygiad dynol ac iechyd

lechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant:

Astudiaeth a dealltwriaeth o fathau gwahanol o iechyd, a sut mae ein iechyd yn effeithio ar ein llesiant. Erbyn heddiw, mae gwell dealltwriaeth o iechyd corfforol, mae gwelliant o ran dealltwrieth o iechyd meddwl. Mae iechyd hefyd yn cwmpasu ein cyflwr emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol. Mae agwedd o’r fanyleb yn edrych ar sut mae gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu mewn ffordd holistig.

Cymdeithaseg:

Mae ffocws mawr ar theoriau Cymdeithaseg, gan gynnwys dysgu am Gymdeithasegwyr gwahanol. Astudir hefyd ddulliau ymchwil yn y maes.

Seicoleg:

Astudiaeth a dealltwriaeth o fodau dynol a sut mae pobl yn meddwl, ymddwyn a theimlo yw Seicoleg. Mae’r adran yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau gwerthuso ac dadansoddi disgyblion gan sicrhau cyfleoedd iddynt defnyddio y wybodaeth am theoriau Seicoleg mewn cyd destun bywyd go iawn gan gymhwyso i feysydd trosedd, iechyd meddwl, addysg ac ymchwil fel rhai enghreiffiiau.