Nod yr Adran Wyddoniaeth yw datblygu disgyblion chwilfrydig sy’n barod i ymchwilio a darganfod sut mae’r byd o’u hamgylch yn gweithio. Mae ein cwricwlwm yn caniatau i ddisgyblion ddarganfod sut mae ein bydysawd a’r organebau ynddi yn cyd-weithio. Rydym yn paratoi disgyblion fel dinasyddion da i werthfawrogi effeithiau dynol ar y blaned a sut gall gwyddoniaeth gael ei ddefnyddio i ddatrys problemau yn y byd. Rydym yn datblygu sgiliau ymarferol ac ymchwiliol hollbwysig sy’n caniatau i’r disgyblion ofyn cwestiynau am yr hyn maent yn darganfod. Mae’r adran yn cyplysu dysgu Bioleg, Cemeg a Ffiseg gan ddatblygu sgiliau digidol a thechnoleg hefyd trwy gydweithio effeithiol gydag adrannau STEM eraill yr ysgol.