Nod yr Adran Ddaearyddiaeth yw meithrin cariad a brwdfrydedd at Ddaearyddiaeth trwy gynnig gwersi bywiog gyda gweithgareddau amrywiol y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Rhoddir cryn bwyslais ar feithrin a datblygu sgiliau allweddol y disgyblion, sgiliau meddwl a sicrhau cyfleoedd niferus iddynt ddatblygu eu medrau, datrys problemau a gweithio’n annibynnol lle bo’n addas. Pwysleisir pwysigrwydd datblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes gan anelu at y disgyblion yn ddinasyddion cyfrifol, sy’n gwerthfawrogi’r angen i fod yn gynaliadwy a’u galluogi i uniaethu mewn modd pwrpasol â safbwyntiau grwpiau gwahanol o bobl