Beth sydd gan yr Adran Gymraeg i’w gynnig? Ceisiwn sicrhau bod astudio’r Gymraeg o fl.7-13 yn Ysgol Llanhari yn fwy nag astudio iaith. Mae’n bwnc amrywiol, byrlymus a deinamig fydd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau unigryw ac yn baratoad ar gyfer pob math o lwybrau gyrfaol, cymdeithasol a phersonol i’n disgyblion maes o law. Ceisiwn agor y drws i lenyddiaeth, diwylliant, hanes a chymdeithaseg Cymru ac wrth i ni nesau at 2050 â’r gobaith o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae sicrhau’r amrywiaeth hwn ar draws yr unedau gwaith ym mhob cyfnod allweddol yn fwy perthnasol nag erioed. Trefnwn gyfleoedd cyson i ddisgyblion ddefnyddio’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, boed hynny ar deithiau preswyl, teithiau i’r theatr neu sesiynau yng nghwmni beirdd, llenorion a gwesteion amrywiol a all ddatblygu cariad ein disgyblion at yr iaith gan agor y drws ar gyfoeth sydd yn ehangach na phwnc ar amserlen.