Ethos yr Adran Gerddoriaeth yw annog creadigrwydd, annibyniaeth a hunan hyder disgyblion, gyda phwyslais ar brofiadau dysgu ymarferol, holistaidd. Mae cerddoriaeth yn fodd byd-eang o gyfathrebu sydd yn perthyn i bob unigolyn, gyda’r pŵer i hybu ochr greadigol ein disgyblion mewn byd sydd yn gwerthfawrogi unigolion sy’n fwy hyderus yn yr agwedd hon. Canolbwyntia cwricwlwm yr adran ar weithgareddau ymarferol wrth ddatblygu sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwrando ein disgyblion. Mae yna lu o gyfleoedd i gydweithio gyda chyfoedion a hefyd i ddatblygu eu gallu cerddorol yn annibynnol, wrth ddilyn trywydd diddordeb cerddorol personol mewn gwersi. Mae’r themau rydym yn dilyn yn yr adran yn cynnwys ystod eang o arddulliau cerddorol, gan gynnwys cerddoriaeth draddodiadol Affricanaidd, cerddoriaeth Gymreig, ystrydebau cerddorol, y Blŵs, y Gamelan, cerddoriaeth ar gyfer y sgrîn, ac hefyd cynnig y cyfle i’n disgyblion berfformio’n fyw o flaen eu cyfoedion ym Mrwydr y Bandiau yn nhymor yr haf. Cydweithiwn yn agos gydag adrannau eraill y Celfyddydau Mynegiannol, gydag athroniaeth y Cwriwcwlwm Newydd i Gymru yn sail i gynlluniau’r maes dysgu a phrofiad. Yn benodol mewn Cerddoriaeth, y prif nodau yw cydnabod

  • archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi disgyblion i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
  • ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol
  • creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.