O fewn cyd-destun yr ysgol nid yw’n ddigonol i gategareiddio Celf fel pwnc sydd yn greadigol neun fynegiannol yn unig. Mae’n rhaid gwerthfawrogi ei nodweddion unigryw yn y modd mae’n cyfrannu at addysg gyflawn y disgybl, ac yn hybu datblygiad esthetig, canfyddiadol, technegol, personol a chymdeithasol y disgybl unigol.

Mae Celf yn bwnc felly sydd yn cyfrannu at addysg gyflawn disgyblion Llanhari gan eu gwneud yn fwy ymwybodol or byd ou cwmpas ac yn eu helpu i ddod i ddeall ei gymhlethdodau. Drwy astudio gwaith arlunwyr, crefftwyr a chynllunwyr mae’r disgyblion yn dysgu gwerth y cyfraniadau mae’r bobl yma yn eu gwneud i gymdeithas, a sut, yn y dyfodol, y gallent hwy gyfrannu yn yr un modd.

Yr ydym fel Adran yn ffodus fod gennym garfan gryf o gyn-ddisgyblion sydd yn awr yn ennill eu bywoliaeth mewn gwahanol feysydd o ran Celf, Chrefft a Dylunio. Maent yn barod iawn i ddychwelyd i’r ysgol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r disgyblion ac i arddangos eu gwaith proffesiynol. Mae cyfraniad gwerthfawr y disgyblion yma wedi helpu sawl disgybl yn ystod y blynyddoedd diwethaf.