Mae’r Adran Addysg Grefyddol yn Ysgol Llanhari yn awyddus i ysgogi disgyblion i feddwl drostynt eu hunain er mwyn datblygu dealltwriaeth o fywyd ac o’r byd ehangach. Bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ystyried cwestiynau sylfaenol sy’n ymwneud â’u hanghenion unigol, sydd hefyd yn ceisio ateb galwadau’r byd modern ac sy’n herio ac ysgogi eu prosesau meddwl personol nhw, ac eraill yng Nghymru, Prydain ac yn fyd eang. Mae’r adran yn datblygu cyfleoedd i chwilio am bwrpas mewn bywyd, datblygu agweddau cadarnhaol iddynt eu hunain ac eraill, i fyfyrio ar brofiadau bywyd, i wybod am, a deall natur crefydd ac i gael afael ar sgiliau sy’n ymdrin, archwilio, mynegi, dadansoddi, dod i gasgliadau rhesymegol a gwerthuso. Ceir amrywiaeth o themau gwahanol o fewn ein cwriciwlwm sy’n trafod crefydd, athroniaeth a moeseg, megis Taith Bywyd i flwyddyn 8, a Throsedd a Chosb i flwyddyn 9.