Ein nod yn yr adran Addysg Gorfforol yw creu agwedd bositif at ymarfer corff gan addysgu’r disgyblion am fanteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol ymarfer corff. Rydym yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddefnyddio’r wybodaeth maent wedi ei ddysgu mewn pynciau eraill, megis gwyddoniaeth, mathemateg a Chymraeg, mewn sefyllfaoedd ymarferol; ar y caeau chwarae, yn y gampfa ac mewn gweithgareddau awyr agored. Rhoddir cyfle i’r disgyblion gystadlu mewn amrediad o weithgareddau, yn Ileol, sirol a chenedlaethol tra’n anelu at gyrraedd y safon uchaf posib.