Gwyddom bod dechrau ym mlwyddyn 7 yn gam mawr i bobl ifanc.  Mae hi hefyd yn gallu bod yn amser pryderus i rieni a theuluoedd.  Ein nod ni yn Ysgol Llanhari ydy sicrhau bod y disgyblion yn teimlo’n barod ac yn gyffrous i wneud y naid bwysig hon gyda hyder.

Gwneir trefniadau arbennig i sicrhau bod trosglwyddo effeithiol yn digwydd ar gyfer y disgyblion hynny sy’n ymuno ag Ysgol Llanhari ym Mlwyddyn 7 o’n hysgolion cynradd cyswllt sef Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant ac sy’n trosglwyddo o Flwyddyn 6 Ysgol Llanhari.

Tîm Trosglwyddo

Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn ymgartrefu’n rhwydd i fywyd yn yr adran uwchradd, mae gennym dîm o staff ar gael i helpu.

Cydweithiwn yn agos iawn fel pedair ysgol i sicrhau bod anghenion a gwybodaeth academaidd a chymdeithasol disgyblion yn cael eu hystyried wrth iddynt drosglwyddo.  Trosglwyddir gwybodaeth a fydd o fudd i gynorthwyo’r disgybl i ymgartrefu ym mlwyddyn 7 ymlaen llaw drwy gyfres o gyfarfodydd rhwng athro Blwyddyn 6 ac Arweinydd Safonau Cyrhaeddiad Blwyddyn 7, y Cydlynydd Lles ac aelodau o’r adran gynnal.

Cyrchir barn y disgyblion, staff y cynradd a’r uwchradd wrth osod y disgyblion mewn dosbarthiadau cofrestru gallu cymysg cyn diwedd tymor yr haf ac anogir rhieni hefyd i adael i’r ysgol wybod am unrhyw ddymuniadau neu bryderon yn hyn o beth er mwyn esmwythau’r broses drosglwyddo.

Digwyddiadau Trosglwyddo ac Ymgartrefu Blwyddyn 5

Prosiect Clwstwr

Cynhelir ffair i ddisgyblion Blwyddyn 5 yn nhymor y Gwanwyn yn flynyddol.  Gwahoddir bob ysgol yn y Clwstwr i baratoi cywaith bach thematig ac yna’i rhannu gyda ni mewn ‘ffair’ yn y Neuadd Ganol.  Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion y pedair ysgol ddechrau dod i adnabod ei gilydd ac i ddathlu’r gwaith a gyflawnwyd.

Gŵyl Hwyl

Caiff disgyblion blwyddyn 5 ymweld â’r ysgol ar gyfer diwrnod trosglwyddo ar ddiwedd Tymor yr Haf i gymryd rhan mewn gŵyl chwaraeon a hwylusir gan yr Urdd.

Noson Agored

Cynhelir noson agored i rieni a disgyblion blwyddyn 5 yn Nhymor yr Haf. Yn ystod y noson hon, bydd y Pennaeth, ynghyd ag aelodau o’r 6ed Dosbarth a Blwyddyn 7 presennol, yn cyflwyno Ysgol Llanahri i’r rhieni a disgyblion cynradd. Ceir cyfle i fynd o gwmpas yr adrannau ac i gael blas ar fywyd yr ysgol.

Blynyddoedd 5 & 6

Gwersi Ieithoedd Rhyngwladol

Mae athrawon ein hadran Ieithoedd Modern wedi eu hamserlennu ymhob un o’n hysglion cynradd ac yn adran gynradd Llanhari yn wythnosol er mwyn cynnal gwersi i roi blas ar Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg.  Gwelir fod gan Ieithoedd Rhyngwladol le pwysig yn y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru ac mae hyn yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous wrth weithio ar draws yr ysgolion. Mae’r prosect yma’n tanio diddordeb a chwilfrydedd y disgyblion cyn iddynt ymuno â ni ym Mlwyddyn 7 ac yn rhoi cychwyn cynnar iddynt ar ddysgu iaith dramor.     

Blwyddyn 6

Mae Arweinydd Safonau Cyrhaeddiad Blynyddoedd 7 & 8 yn cymryd rhan lawn yn y trefnaidau trosglwyddo trwy gydol y flwyddyn ac yn dod yn wyneb cyfarwydd iawn i’r disgyblion. Mae’r Pennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am drosglwyddo yn arwain y broses drosglwyddo ac yn sicrhau bod y tîm cynhwysiant a lles a’r staff academaidd yn cydweithio fel bod pob disgybl yn cael cyfnod trosglwyddo llwyddiannus a fydd yn ei g/alluogi i barhau gyda’i d/ddysgu yn syth wrth gyrraedd Blwyddyn 7.

Diwrnodau Trosgwlyddo

Yn ystod Blwyddyn 6, daw’r disgyblion i Lanhari am ddeuddydd yn ystod tymor yr Hydref a thymor y Gwanwyn neu’r Haf ar gyfer gweithgareddau thematig hwyliog. Yn rhan o’r diwrnodau yma, byddant yn cael cyfle i deithio o amgylch adeilad yr ysgol a chwrdd ag aelodau staff allweddol.

Holi ac Ateb

Mae rhai o ddisgyblion hŷn Llanhari’n ymweld â dosbarthiadau Blwyddyn 6 y clwstwr ar gyfer sesiwn holi ac ateb.  Dyma gyfle gwych i ddisgyblion glywed yr hanes a’r cyffro i gyd, ac i dawelu eu meddyliau wrth iddynt gamu i flwyddyn 7.

Noson Wybodaeth i Rieni

Cynhelir noson yn Ysgol Llanhari i rieni a disgyblion Blwyddyn 6 y clwstwr ar ddiwedd tymor yr haf er mwyn rhannu gwybodaeth drefniadaethol cyn iddynt ymuno â Blwyddyn 7 ym mis Medi.

Cwrs Anwytho Bl.7

Anogir pob disgybl ym mlwyddyn 7 i fynychu’r cwrs anwytho yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd ym mis Medi er mwyn cael cyfle i ddod i adnabod ei gilydd fel criw blwyddyn a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.