Croeso i Ddosbarth Dewi Draenog (Meithrin)

Ein nod yn yr Adran Feithrin yw creu awyrgylch hapus, groesawgar a hamddenol ble mae’r plant yn teimlo’n ddiogel ac yn mwynhau profi amrywiaeth o weithgareddau chwarae sy’n fwriadol a strwythuredig.

Mae yna 24 o ddisgyblion yn ein dosbarth eleni a rydyn ni’n cael hwyl a sbri bob dydd! Rydyn ni’n mwynhau dysgu, canu a chwarae gyda’n ffrindiau a’n hathrawon.  Rydym yn gofalu am ein masgot dosbarth, Dewi Draenog, ac yn helpu’n gilydd ym mhob ffordd posib er mwyn sicrhau fod pawb yn hapus!

Staff y Feithrin:

Arweinwyr: Mrs Tessa Williams (CALU), Mrs Cerys Vincent (CALU)

Cynorthwywyr Addysgu : Mrs Ceri Williams, Mrs Amanda Impey

Diwrnod Ysgol:

Sesiwn y Bore:  8:50 – 11:30

Cinio ac Egwyl:  11:30 – 12:15

Sesiwn y Prynhawn:  12:15 – 3:10 (Llawn amser)

Gwybodaeth Bwysig:

Diwrnod Ymarfer Corff: Dydd Mawrth

Plant i ddod â photel dŵr a darn o ffrwyth i’r ysgol bob dydd.

Sicrhewch bod enw eich plentyn ar bopeth os gwelwch yn dda!