Mae hybu Cymreictod yn greiddiol i ethos ein hysgol.

Daw’r mwyafrif o’n disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg ar yr aelwyd ac felly mae’n holl bwysig inni ein bod yn magu cariad a hyder y disgyblion yn yr iaith a diwylliant Cymru.

Cynigiwn arlwy eang o weithgareddau a chyfleon allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg ac anelwn i bwysleisio manteision dwyieithrwydd yn gyson. Mae’r adran gynradd eisioes wedi ennill statws gwobr aur y cynllun Siarter iaith ac mae gan yr adran uwchradd gynlluniau cadarn fydd yn sicrhau statws tebyg.

Mae modd gweld yr holl weithgarwch sy’n digwydd y tu hwnt i’r dosbarth ar gyfrif Trydar yr ysgol ac ar gyfrifon y dosbarthiadau ac adrannau unigol.