Gallwch ddarllen ein prosbectws i gael blas ar ein llwyddiannau academaidd ynghŷd â chipolwg o fywyd byrlymus, hapus yr ysgol, oddi mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

Yn ogystal, cewch gyfle i ddarllen am ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’n disgwyliadau o’n disgyblion.

Mae ein hysgol yn ysgol gynhwysol: un sy’n anelu at roi’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl i bob disgybl- yn academaidd ac yn gymdeithasol mewn amgylchedd sy’n ysbrydoli, sy’n hapus ac yn ddiogel.

Prosbectws yr Ysgol