Mae’n bleser gen i eich croesawu i wefan Ysgol Llanhari, ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed.   Porwch drwy’r wefan er mwyn cael blas ar ein hethos, ein safonau, ein disgwyliadau a’n llwyddiannau.

Mae Ysgol Llanhari yn ysgol gynhwysol; ysgol sy’n gwbl ymrwymedig i roi’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl i bob disgybl – o’r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 13– yn academaidd ac yn gymdeithasol, mewn amgylchedd sy’n ysbrydoli, sy’n hapus ac yn ddiogel.

Rhown gyfle cyfartal i bob disgybl lwyddo ac i ddatblygu’n unigolion uchelgeisiol, hyderus a llwyddiannus; ein nod yw meithrin plant a phobl ifanc sy’n falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac sy’n meddu ar y cymwysterau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein disgyblion ac mae ein disgwyliadau uchel wedi arwain at safonau cyrhaeddiad uchel sydd wedi  galluogi ein disgyblion i symud ymlaen i brifysgolion, prentisiaethau a gyrfaoedd amrywiol a llewyrchus.

Croeso i Ysgol a Theulu Llanhari.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech ddod i ymweld â’r ysgol, cysylltwch â ni.  Am y diweddaraf o’r ysgol dilynwch ni ar Trydar @YsgolLlanhari.

Meinir Thomas