Ysgol sy’n darparu cyfle arbennig i’ch plentyn o 3 i 19 oed, neu i ymuno â ni’n 11 oed o un o’n hysgolion cynradd partner lleol yw Ysgol Llanhari.

Mae Ysgol Llanhari yn ysgol sy’n darparu addysg i ddisgyblion o 3 mlwydd oed hyd at 19 mlwydd oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw iaith addysgu a chymdeithasu’r ysgol ac mae ein cymuned yn seiliedig ar barch a balchder yn ein hiaith, ein diwylliant a’n hunaniaeth.

Sefydlwyd Adran Gynradd yr ysgol ym Medi 2012 gan drawsnewid Ysgol Gyfun Llanhari yn ‘Ysgol Bob Oed’; un ysgol i ddisgyblion o 3 oed i 19 ar un safle, gydag un bwrdd Llywodraethol ac un Tîm Arwain a staff.

Lleolir Cylch Meithrin Camau Cyntaf ar safle’r ysgol hefyd a chydweithiwn â hwy yn y Cyfnod Sylfaen i ddarparu gofal cofleidiol rhan amser i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol cyn eu bod yn ymuno ag Ysgol Llanhari’n llawn amser yn y tymor yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed. Rhydd hyn gyfle arbennig i ni fel ysgol sicrhau dilyniant a chynnydd i’n disgyblion ar hyd y cyfnodau dysgu a hynny mewn awyrgylch sy’n adlewyrchu’r uned deuluol.

Rhown gyfleoedd i’r disgyblion a’r athrawon gydweithio ar draws y sector gynradd ac uwchradd mewn amgylchedd diogel, trefnus a chydlynus.  Cydweithiwn yn agos iawn â’n hysgolion cynradd partner Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail er mwyn sicrhau trosglwyddo effeithiol hefyd i bob disgybl newydd sy’n ymuno â’r ysgol ym mlwyddyn 7.

Awdurdod Addysg Lleol Rhondda Cynon Taf sy’n gyfrifol am drefniadau mynediad i’r ysgol.  Gallwch gysylltu â hwy ar www.rctcbc.gov.uk/derbyndisgyblion am becyn mynediad.