Mae ein hysgol yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawn gan ein rhieni a’n cyfeillion.
Derbynnir cefnogaeth ariannol ac ymarferol cyson sy’n hybu’r ddarpariaeth ar gyfer ein disgyblion ymhob sector.
Mae Ffrindiau Llanhari yn trefnu disgos, yn gwerthu nwyddau ar gyfer achlysuron penodol e.e. Sul y Mamau/Tadau ac yn trefnu boreau coffi. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy a chydweithiwn ar bob cyfle i bwysleisio agweddau cymunedol a chymdeithasol ein hysgol.
O ganlyniad i’r cydweithio llwyddiannus, mae’r disgyblion wedi elwa o amrywiaeth o adnoddau gwahanol yn yr ystafell ddosbarth a thu allan. Yn flynyddol cydweithiwn yn agos i sicrhau bod yr holl arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio er lles ein disgyblion.