Ystyriwn ein hysgol yn gymuned ddysgu sy’n cefnogi, gofalu ac yn ysbrydoli.

Rydyn ni am i bob disgybl sy’n rhan o gymuned ein hysgol dyfu mewn hunan-barch a hunan-werth fel y gallant fwynhau’r ystod eang o brofiadau a chyfleoedd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol sy’n cael eu darparu ar eu cyfer ac a fydd yn eu datblygu i fod yn bobl ifanc sydd wedi eu paratoi ar gyfer gwneud y gorau o’u dyfodol.

Gyda’n gilydd rydym yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth, ein hetifeddiaeth a’n hiaith a hyderwn y bydd pob unigolyn yn teimlo balchder o fod yn perthyn i’r ysgol hon, yn falch o’i Gymreictod a’i ddwyieithrwydd.

Rydyn ni am i’n disgyblion fod yn ddysgwyr hyderus a chanddynt ymdeimlad cryf o’u gallu i lwyddo ac i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ac yn ein cymdeithas.

Ein prif amcanion felly yw meithrin:

  • dysgwyr annibynnol, chwilfrydig a mentrus sy’n gallu addasu’n hyblyg mewn byd a chymdeithas sy’n newid yn gyflym.
  • balchder mewn Cymreictod, iaith ac etifeddiaeth ac yn ei sgil datblygu dealltwriaeth a goddefgarwch tuag at ddiwylliannau amrywiol ein byd.
  • unigolion cyfrifol, ystyriol a gofalgar sy’n gallu gwneud cyfraniad positif i’w cymunedau – yn lleol ac yn fyd eang.
  • diwylliant o lwyddo a disgwyliadau uchel fel y gall pob unigolyn gael boddhad o’r profiad o ddysgu a chyrraedd ei botensial.
  • cymuned lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu ac yn gallu cyfrannu’n hyderus i fywyd ein hysgol.
  • cymuned lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu ac yn gallu cyfrannu’n hyderus i fywyd ein hysgol.