Cyfrifoldeb pawb yn ein teulu yw ceisio sicrhau awyrgylch ac ethos ofalgar a chadarnhaol lle gall pob unigolyn dyfu’n hyderus a hapus gan fwynhau holl fanteision addysg gyflawn.

Dyma sydd wrth wraidd ein polisi trefn a disgyblaeth yn yr ysgol.

Mae gan bob disgybl yr hawl i dderbyn ei addysg mewn awyrgylch dymunol, diogel a threfnus, er mwyn dysgu’n well. Mae yna hefyd gyfrifoldeb ar bob disgybl i beidio â gwadu’r hawl hwn i unrhyw ddisgybl arall. Yn ogystal, mae gan athrawon a staff cynorthwyol – clerigol, technegol, staff y gegin a’r gofalwyr – yr hawl i ddisgwyl amgylchfyd dymunol a threfnus, er mwyn iddynt hwythau weithio’n effeithiol. O fewn cymuned yr ysgol, felly, mae gan bob un ei urddas a’i werth.

Gwobrwyir ymddygiad da yn Ysgol Llanhari a cheir disgwyliadau clir a chamau gwella ymddygiad pan fo angen.  Ni dderbynnir bwlio o unrhyw fath yn Ysgol Llanhari. Oherwydd maint yr ysgol a’n systemau bugeiliol cryf, caiff unrhyw ddigwyddiad ei amlygu’n gyflym a delir ag ef yn sionc.  Mae cyfraddau gwahardd Ysgol Llanhari’n eithriadol o isel ac yn adlewyrchiad o’n disgwyliadau uchel a’r gymuned drefnus sydd gennym yn ein hysgol.