Mae’n bleser gen i eich croesawu i wefan Ysgol Llanhari, ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed.   Porwch drwy’r wefan er mwyn cael blas ar ein hethos, ein safonau, ein disgwyliadau a’n llwyddiannau.

Mae Ysgol Llanhari yn ysgol gynhwysol; ysgol sy’n gwbl ymrwymedig i roi’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl i bob disgybl – o’r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 13– yn academaidd ac yn gymdeithasol, mewn amgylchedd sy’n ysbrydoli, sy’n hapus ac yn ddiogel.

Rhown gyfle cyfartal i bob disgybl lwyddo ac i ddatblygu’n unigolion uchelgeisiol, hyderus a llwyddiannus; ein nod yw meithrin plant a phobl ifanc sy’n falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac sy’n meddu ar y cymwysterau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein disgyblion ac mae ein disgwyliadau uchel wedi arwain at safonau cyrhaeddiad uchel sydd wedi galluogi ein disgyblion i symud ymlaen i brifysgolion, prentisiaethau a gyrfaoedd amrywiol a llewyrchus.

Croeso i Ysgol a Theulu Llanhari.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech ddod i ymweld â’r ysgol, cysylltwch â ni.  Am y diweddaraf o’r ysgol dilynwch ni ar Trydar @YsgolLlanhari.

Diolch am ymweld â’n gwefan.

Rhian Phillips

Pennaeth

Croeso gan y Pennaeth

Mae’n bleser gen i eich croesawu i wefan Ysgol Llanhari, ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed.   Porwch drwy’r wefan er mwyn cael blas ar ein hethos, ein safonau, ein disgwyliadau a’n llwyddiannau.

Gwybodaeth Gyffredinol

Ysgol sy’n darparu cyfle arbennig i’ch plentyn o 3 i 19 oed, neu i ymuno â ni’n 11 oed o un o’n hysgolion cynradd partner lleol yw Ysgol Llanhari.

Ethos ac amcanion yr ysgol

Ystyriwn ein hysgol yn gymuned ddysgu sy’n cefnogi, gofalu ac yn ysbrydoli.

Disgwyliadau Teulu Llanhari

Cyfrifoldeb pawb yn ein teulu yw ceisio sicrhau awyrgylch ac ethos ofalgar a chadarnhaol lle gall pob unigolyn dyfu’n hyderus a hapus gan fwynhau holl fanteision addysg gyflawn. Dyma sydd wrth wraidd ein polisi trefn a disgyblaeth yn yr ysgol. Mae g...

Prosbectws yr Ysgol

Gallwch ddarllen ein prosbectws i gael blas ar ein llwyddiannau academaidd ynghŷd â chipolwg o fywyd byrlymus, hapus yr ysgol, oddi mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

Cyngor Ysgol

Mae disgyblion yr adrannau cynradd ac uwchradd yn cydweithio’n effeithiol iawn fel un cyngor ysgol brwdfrydig.

Cymreictod

Mae hybu Cymreictod yn greiddiol i ethos ein hysgol.

Ffrindiau Llanhari

Mae ein hysgol yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawn gan ein rhieni a’n cyfeillion.