Mae Ysgol Llanhari yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol ar draws y cyfnodau allweddol.

Fel ysgol 3-19 amcanwn i adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth ein disgyblion o’r Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 13. Manteisiwn ar bob cyfle i bonito rhwng y cyfnodau dysgu yn Llanhari gan rannu arbenigedd staff ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd a chreu continiwm dysgu fydd yn hybu cyrhaeddiad uwch.  Addysgir Addysg Grefyddol i bob disgybl ac Addysg Ryw a Pherthnasau o Flwyddyn 6 i fyny drwy sesiynau dysgu penodol a thraws gwricwlaidd. Gosodir gwaith cartref addas i atgyfnerthu, ymestyn a pharatoi ar gyfer gwaith y dosbarth lle bo hynny’n berthnasol.

Dosbarth derbyn – Blwyddyn 2 (3-7 oed, y Cyfnod Sylfaen)

Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3-7 oed yng Nghymru ar hyn o bryd. Rhoddir pwyslais mawr ar gael plant i ddysgu drwy ‘wneud’ ac ar ennill profiadau uniongyrchol drwy chwarae sydd yn hwyl a chofiadwy. Cydnabyddir hefyd yr effaith gadarnhaol y mae defnyddio’r amgylchedd y tu allan fel adnodd dysgu yn ei gael ar lles a datblygiad addysgiadol plant ifanc.

Yn Ysgol Llanhari, rhown gyfleoedd i blant archwilio’r byd o’u cwmpas a deall sut mae pethau’n gweithio. Cânt eu herio gyda chwestiynau penagored a rhoddir cyfleoedd iddynt archwilio a rhannu eu syniadau er mwyn datrys problemau. Anogir dulliau dysgu sydd yn meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu ac sydd yn galluogi ein plant i ddatblygu hunan-barch a hunanhyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a meithrin perthynas â phobl newydd.

Mae fframwaith y Cyfnod Sylfaen yn pennu’r cwricwlwm a’r deilliannau ar gyfer plant 3-7 oed dan chwe Maes Dysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sef: Datblygiad Personol a Chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad Mathemategol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Datblygiad Corfforol a Datblygiad Creadigol. Rydym wedi cychwyn ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru i’n cynlluniau ac yn cynllunio gwersi yn ôl y pedwar diben a byddwn yn parhau i greu ac addasu ar y daith i Fedi 2022.

Blwyddyn 3 – 6 (7 -11 oed, CA2)

Atgyfnerthir cwricwlwm y cyfnod Sylfaen ym mlwyddyn 3-6 ac fel y nodwyd uchod rydym yn cynllunio yn ôl y pedwar diben.  Addysgir pynciau craidd y cwricwlwm sef Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ynghyd â’r pynciau anghraidd – Hanes, Daearyddiaeth, Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Celf, Dylunio a Thechnoleg, Addysg Gorfforol a Thechnoleg Gwybodaeth. Addysgir y pynciau anghraidd yng nghyd-destun themau neu gyweithiau er mwyn ennyn diddordebau’r dysgwyr a’u galluogi i drosglwyddo’u sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn draws gwricwlaidd.

Blwyddyn 7-9 ( 11 – 14 oed, CA3  )

Er mwyn hyrwyddo’r trosglwyddo a chontiniwm dysgu rhwng Blwyddyn 6 a 7, addysgir cyfran o wersi thematig ym mlwyddyn 7 sy’n seiliedig ar ddablygu sgiliau y disgyblion. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein cwricwlwm 5-8, yn seiliedig ar argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, y Cwricwlwm i Gymru. Addysgir pynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol, sef Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, a Gwyddoniaeth ynghyd â’r pynciau anghraidd – Hanes, Daearyddiaeth, Cerddoriaeth, Celf, Cerddoriaeth,  Iaith Fodern, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Gorfforol yn ystod Blynyddoedd 7 ac 8. Byddwn yn addasu hyn erbyn 2022 i pan ddaw y Cwrciwlwm i Gymru i rym. Ym mlwyddyn 9, er mwyn i ddisgyblion cael rhagflas a dechreuad cynnar i TGAU,rydym yn cynnig gwersi pob pwnc dewisiol CA4. Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys Iechyd a Gofal, Cymdeithaseg a Busnes yn ychwanegol i bynciau Blynyddoedd 7 ac 8. Dysgir Addysg Grefyddol, a’r Tystysgrif her sgiliau i hybu agweddau eraill ar addysg sy’n cyfrannu tuag at ddatblygiad personol a chymdeithasol yr unigolyn. Datblygir Technoleg Gwybodaeth drwy wersi penodol ar amserlen disgyblion ac ar draws y cwricwlwm. Cyflwynir Addysg Byd Gwaith yn drawsgwricwalaidd a thrwy sesiynau ABCh er mwyn hybu dealltwriaeth o fyd gwaith, diwydiant, yr economi a chysylltiadau â chyflogwyr.

Blwyddyn 10 ac 11 ( 14 – 16 oed, CA4 )

Addysgir y pynciau craidd sef Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r ynghyd â’r dystysgrif Her Sgiliau, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn cynnwys Addysg Ryw a Byd Gwaith i bob disgybl. Caiff pob disgybl gyfle i ddewis o opsiynau o bynciau eraill hyd at safon L2 (TGAU/BTEC).  Darperir gwybodaeth benodol i ddisgyblion a rhieni’n flynyddol ynglŷn â’r opsiynau.

Blwyddyn 12 A 13  ( 16 – 18 oed, CA5 )

Caiff disgyblion ddewis o ystod o bynciau i’w hastudio hyd safon L3 (Uwch Gyfrannol ac Uwch a BTEC). Astudir Addysg Bersonol a Chymdeithasol hefyd sy’n cynnwys Addysg Ryw a Byd Gwaith ac Addysg Grefyddol.  Anogwn yn gryf i bob disgybl ddilyn cwrs Tystysgrif Her Sgiliau fel rhan o raglen astudlaeth gyflawn ar gyfer addysg Uwch a Phellach. Cydweithiwn ag ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol (RhCT a Phenybont) mewn consortiwm er mwyn darparu arlwu ehangach o bynciau gan gynnwys rhai cyrsiau ble mae’r niferoedd yn is.  Rhydd y bartneriaeth hon gyfle i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a’u hyder y tu hwnt i’r ysgol gartref mewn paratoad ar gyfer y gweithle neu brifysgol ond gan gadw Ysgol Llanhari fel cyswllt cartref y disgybl.