Rydym yn ysgol arweiniol ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon gyda’r Athrofa, sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac fel ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth gynnig profiadau i ddarpar athrawon newydd sy’n dilyn y rhaglenni AGA newydd.

Rydym yn arwian rhwydwaith o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y De Ddwyrain sy’n cynnig lleoliadau profiad dysgu i’r darpar athrawon. Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu dulliau gwahanol o hyfforddi, yn gyflwyniadau gan staff perthnasol ar ddiwrnodau pontio a phrofiad uniongyrchol o fewn y dosbarth. Mae staff uwchradd a chynradd Llanhari yn cyfrannu i’r rhaglen hyfforddiant.

Fel ysgol 3-19 rydym yn cynnig profiad cyfoethog a chynhwysol i ddarpar athrawon sy’n rhan o’r bartneriaeth â Phrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Mae dysgu ac addysgu rhagorol yn greiddiol i weledigaeth Ysgol Llanhari ac mae’r holl staff yn ymwybodol o ac yn ymrwymedig i gynnal a chodi safonau. Maent felly yn gallu cynnig profiadau arbennig i’r darpar athrawon.

Mae ethos gref o hunan wella a chefnogi dysgu proffesiynol o fewn Llanhari ac rydym yn sicr bod hyn o fudd i ddarpar athrawon a ddaw’n rhan o’n sefydliad. Mae cefnogaeth gref i’r darpar athrawon o fewn yr ysgol gan ein bod fel ysgol yn gyfarwydd â myfyrio ar arfer er mwyn codi safonau. Mae ymrwymo i’r bartneriaeth hon hefyd yn gyfle euraidd i staff presennol yr ysgol ddatblygu’n broffesiynol.