Mae’r ysgol yn gyson yn datblygu ei dulliau dysgu cyfunol ar draws yr ystod oed 3-19.

Datblygodd yr angen i gynnig profiadau dysgu cyfunol i’r holl ddisgyblion yn ystod y cyfnod o bandeming yn 2020 ac ystyriwn bellach bod dysgu cyfunol yn arf ychwaengol i’r addysgwyr. Mae polisi dysgu cyfunol yr ysgol yn nodi sut rydym yn datblygu’r defnydd o dechnoleg i hybu’r dysgu a sut y dylid cyfuno hwn â’r dulliau addysgeg traddodiadol a amlinellir ym mholisi dysgu ac addysgu yr ysgol.

Diffinir dysgu cyfunol isod :

  • Dysgu wyneb yn wyneb yn y dosbarth
  • Dysgu ar lein : gweithgareddau ar lein trwy blatfform HWB, gwersi wedi eu recordio, gwersi fflip, ffrydio byw
  • Defnyddio gwerslyfrau ac adnoddau i weithio adref

Y defnydd o blatfform Hwb https://hwb.gov.wales/

Ers Medi 2020 mae’r holl ddisgyblion wedi bod yn defnyddio Hwb fel platfform ar gyfer Microsoft Teams a Google Classrooms. Yn y Cyfnod Sylfaen, defnyddir Google Classroom i osod tasgau ac i rannu gwybodaeth â rhieni / gofalwyr. Disgwylir iddynt gwblhau tasgau a osodir yn uniongyrchol neu i uwchlwytho tystiolaeth arall e.e.llun neu fideo. Mae athrawon CA2-CA5 yn defnyddio Teams / Google Classrooms er mwyn gosod gwaith cartref a thasgau asesu ac yn cynnig adborth yn electronig i’r disgyblion.

Polisi Dysgu Cyfunol Hydref 2020

Darpariaeth dysgu o bell Ysgol Llanhari Ionawr 2021