Anelwn yn uchel yn Ysgol Llanhari ymhob agwedd o fywyd yr ysgol gan weithio’n ddyfal tuag at godi safonau’n barhaus.

Does dim dwywaith bod angen i blentyn deimlo’n hapus a diogel yn yr ysgol os yw am ffynu’n academaidd ac yn gymdeithasol.  O’r herwydd, un o brif amcanion yr ysgol yw sicrhau ethos ofalgar, gefnogol a chlos lle gwerthfawrogir yr unigolyn am yr hyn ydyw. Mae trefn gadarn o gynnal a chefnogi wedi ei hen sefydlu yn yr ysgol er mwyn hybu’r awyrgylch hapus a diogel yma.

Mae gan bob athro/awes gyfrifoldeb am ofal a lles eu disgyblion yn ogystal ag am gynnal safonau cyrhaeddiad. Mae gan bob disgybl athro penodol sy’n gwneud y gwaith creiddiol o hyrwyddo’i ddatblygiad a’i les fel unigolyn o fewn yr ysgol: Yn yr adran gynradd gwneir hyn gan yr athro/athrawes ddosbarth ac yn yr adran uwchradd y Tiwtor Personol yw’r cyswllt dyddiol cyntaf, gyda’r Arweinydd Safonau Cyrhaeddiad yn cydlynu’r cyswllt â’r rhieni a staff eraill er mwyn cynorthwyo datblygiad llawn a llwyddiannus pob unigolyn.

Atgyfnerthir gwaith yr athrawon dosbarth, y tiwtoriaid personol a’r Arweinwyr Safonau Cyrhaeddiad gan y Cydlynydd Lles sy’n gweithio gyda disgyblion a rhieni ar draws yr ystod oedran i gefnogi lles emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol disgyblion. Cefnogir hyn oll gan waith y Cynorthwy-wyr Dosbarth, yr adran gynnal a’r Hafan, y Tîm Arwain a’r Pennaeth.

Gosodwn bwysigrwydd a gwerth mawr ar gyswllt agos ac agored rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’r berthynas arbennig hon yn hanfodol i lwyddiant pob disgybl ac yn rhoi sail gadarn a chefnogaeth gref i ddatblygiad a chynnydd addysgiadol, cymdeithasol ac emosiynol yr unigolyn.

Disgwyliadau Teulu Llanhari

Cyfrifoldeb pawb yn ein teulu yw ceisio sicrhau awyrgylch ac ethos ofalgar a chadarnhaol lle gall pob unigolyn dyfu’n hyderus a hapus gan fwynhau holl fanteision addysg gyflawn

Dyma sydd wrth wraidd ein polisi trefn a disgyblaeth yn yr ysgol, polisi a gyflwynir drwy lyfryn ‘Teulu Llanhari.’ Dyfynnir isod ran o’r paragraff arweiniol sy’n adlewyrchu ein hegwyddorion:

Mae gan bob disgybl yr hawl i dderbyn ei addysg mewn awyrgylch dymunol, diogel a threfnus, er mwyn dysgu’n well. Mae yna hefyd gyfrifoldeb ar bob disgybl i beidio â gwadu’r hawl hwn i unrhyw ddisgybl arall. Yn ogystal, mae gan athrawon a staff cynorthwyol – clerigol, technegol, staff y gegin a’r gofalwyr – yr hawl i ddisgwyl amgylchfyd dymunol a threfnus, er mwyn iddynt hwythau weithio’n effeithiol. O fewn cymuned yr ysgol, felly, mae gan bob un ei urddas a’i werth.

Gwobrwyir ymddygiad da yn Ysgol Llanhari a cheir disgwyliadau clir a chamau gwella ymddygiad pan fo angen.  Ni dderbynnir bwlio o unrhyw fath yn Ysgol Llanhari. Oherwydd maint yr ysgol a’n systemau bugeiliol cryf, caiff unrhyw ddigwyddiad ei amlygu’n gyflym a delir ag ef yn sionc.  Mae cyfraddau gwahardd Ysgol Llanhari’n eithriadol o isel ac yn adlewyrchiad o’n disgwyliadau uchel a’r gymuned drefnus sydd gennym yn ein hysgol.

Cynhwysiant Addysgol a Chymdeithasol

Gweithredwn bolisi cynhwysol yn yr ysgol sy’n rhoi cyfle i bob disgybl gael mynediad i’r cwricwlwm gyda chefnogaeth pan fo angen, boed yn academaidd neu’n emosiynol.  Anelwn at feithrin hinsawdd o lwyddiant trwy gydnabod a chanmol ymdrechion y disgybl fel unigolyn. Darparwn gynlluniau gwaith amrywiol a gwahaniaethol, deunyddiau dysgu, profiadau a dulliau dysgu amrywiol i ddiwallu anghenion pob disgybl. Darparwn brofiadau ymestynnol a chyfoethogi ar gyfer y disgyblion mwy abl a thalentog.

Yn unol â’n hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal, nid ydym am i ddisgyblion ddioddef oherwydd eu hanableddau: Bydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Pennaeth Cynorthwyol Lles a Chynhwysiant yn cydweithio â rhieni i sicrhau fod yr holl ddisgyblion yn gallu cyfranogi yng nghwricwlwm yr ysgol.