Mae ysgol Llanhari yn gymuned hapus, ofalgar, uchelgeisiol a chynhwysol.

Mae maint ein hysgol yn golygu ein bod yn adnabod ein disgyblion i gyd yn arbennig o dda ac yn deall eu hanghenion unigol. Mae naws deuluol iawn yma yn Ysgol Llanhari ynghyd â thîm o staff sy’n gwbl ymroddedig i sicrhau dysgu ac addysgu o’r safon uchaf ac i ddarparu profiadau cyfoethogi amrywiol i’n disgyblion.

Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein disgyblion.  Ein gwaith ni yn yr ysgol yw eu cynorthwyo i ymgyrraedd mor uchel â phosibl, yn gymdeithasol ac yn academaidd.  Mae ein safonau cyrhaeddiad yn uchel ac mae ein disgyblion yn symud ymlaen i brifysgolion yng Nghymru ac hefyd i Rydychen, Caergrawnt a thu hwnt i brifysgolion Grŵp Russell. Mae ein cyn- ddisgyblion bellach mewn gyrfaoedd llwyddiannus tu hwnt mewn meysydd amrywiol megis meddygaeth, gwyddoniaeth, y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, addysg, ac ym myd busnes.

Mae lles ac anghenion pob disgybl yn ganolog i’n hathroniaeth ac ymfalchïwn yn y gefnogaeth sydd ar gael yn yr ysgol a’r berthynas agos rhwng y staff a’r disgyblion a’u teuluoedd. Teulu ydym ni yn Llanhari, teulu dwyieithog ag aelodau sy’n amrywio o ran oedran, diddordebau a dawn.

Mae gan Ysgol Llanhari dîm o athrawon brwdfrydig sy’n symbylu ac yn ysbrydoli disgyblion i ddymuno dysgu a’u herio i anelu’n uchel.  Rhown bwyslais mawr ar sicrhau profiadau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer ein disgyblion.