Croeso i Ddosbarth Gwion Gwiwer (Blwyddyn 1)

Croeso cynnes i chi i dudalen Blwyddyn 1. Miss Richards sy’n ein dysgu ni gyda chymorth Miss Jones a Mrs Greenley. Eleni, dosbarth bychain ydyn o ddisgyblion hapus a brwdfrydig.  Rydym yn mwynhau dysgu pethau newydd bob dydd trwy chwarae ac arbrofi yn ardaloedd y dosbarth, tu fewn a thu allan!

Thema tymor y Gwanwyn:  Fi a Fy Myd

Staff Gwion Gwiwer:

Athrawes Dosbarth :  Miss Richards

Athrawes CPA : Mrs Vincent

Cynorthwywyr Dysgu :   Miss Jones, Mrs Greenley

Gwybodaeth bwysig:

  • Cynhelir gwersi Ymarfer Corff bob dydd Mawrth – gwisgwch eich gwisg i’r ysgol
  • Mae llyfrau darllen yn cael eu dosbarthu yn wythnosol. Gofynnwn yn garedig bod y llyfr darllen yn dychwelyd i’r ysgol ar y dydd a nodir ar flaen y blygell er mwyn i’ch plentyn dderbyn llyfr newydd
  • Gofynnir bod disgyblion yn dod â darn o ffrwyth a photel o ddŵr i’r ysgol bob dydd
  • Byddwn yn cynnig diod o laeth i ddisgyblion Blwyddyn 1 bob dydd
  • Cofiwch i labelu popeth gydag enw eich plentyn!

Dilynwch ni ar Trydar  @GwionGwiwer