Croeso i Ddosbarth Drudwy (Blwyddyn 2)
Croeso cynnes i chi i dudalen ein dosbarth! Bwriad y dudalen hon yw rhoi blas i chi o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau ym Mlwyddyn 2. Mrs Hobbs, Miss Hayes a Miss Davies sydd â’r fraint o ddysgu’r 29 o ddisgyblion bywiog, brwdfrydig a chyfeillgar yn y dosbarth.
Ein bwriad yw sicrhau bod ein disgyblion yn parhau i fod yn hyderus, annibynnol, creadigol a hapus trwy gydol eu hamser yn ein dosbarth. Rydym wrth ein boddau’n siarad Cymraeg gyda’n gilydd bob dydd a chawn llawer o hwyl a sbri wrth ddysgu.
Thema tymor y Gwanwyn: Gwahoddiad Arbennig
Staff Drudwy:
Athrawes Dosbarth: Mrs Hobbs
Athrawes CPA: Mrs Owen
Cynorthwywyr Dysgu: Miss Hayes, Miss Davies
Gwybodaeth bwysig:
- Gwisgwch wisg ymarfer corff bob dydd Mawrth
- Bydd gwaith cartref yn fyw ar y Dosbarth Gwgl bob dydd Gwener
- Dychwelwch eich llyfrau darllen ar y diwrnod priodol