Mae ein disgyblion yn cychwyn ar eu taith 3-19 yn yr Adran Gynradd lle maent yn derbyn y gofal a’r arweiniad sy’n ofynnol i roi’r hyder a’r uchelgais iddynt symud ymlaen yn addysgol yn ogystal â datblygu i fod yn unigolion moesegol, creadigol.

Yn Llanhari, ein nod yw creu amgylchedd hapus a diogel lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn mwynhau dod i’r ysgol bob dydd i ddysgu a thyfu. Mae gennym dîm ymroddedig a brwdfrydig iawn o staff sy’n gweithio’n ddiwyd i baratoi profiadau cyfoethog i’n disgyblion y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Erbyn blwyddyn 6, mae ein disgyblion yn barod i gymryd y cam nesaf i’r adran uwchradd.

Yr adran uwchradd yw’r cam naturiol nesaf i’r disgyblion. Ym mlwyddyn 7, mae disgyblion eraill o ysgolion y clwstwr yn ymuno â disgyblion adran gynradd Llanhari. Mae’r disgyblion yn cael eu gosod mewn dosbarthiadau cofrestru ble cânt y cyfle i ddysgu a chymdeithasu ar y cyd â disgyblion o ysgolion eraill y clwstwr. Bydd y disgyblion yn aelodau o Deulu Llanhari am y pum mlynedd nesaf nes y daw’n adeg sefyll arholiadau allanol. Ymhyfrydwn yn safonau uchel yr ysgol a’r cyfle a roddir ym mlwyddyn 11 i bob disgybl gyrraedd ei botensial ar ddiwedd y daith addysgol statudol. Mae gennym chweched dosbarth ffyniannus ac anogwn ddisgyblion blwyddyn 11 i barhau â’u haddysg chweched dosbarth yn Llanhari. Yn ystod eu dwy flynedd olaf cânt eu haddysgu gan athrawon brwd a blaengar ac mae cyfle iddynt serennu yn eu pynciol dewisol cyn mynd yn eu tro i’r Brifysgol neu i fyd gwaith.

Mae’r berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref yn bwysig iawn i ni. Rydym yn falch o’r awyrgylch groesawgar y mae rhieni, gofalwyr, ffrindiau ac aelodau’r gymuned yn ei weld pan fyddant yn ymweld â ni. Mae gennym bolisi drws agored, croesawgar sy’n annog teuluoedd ein disgyblion i ddod yn rhan o deulu’r ysgol er mwyn ein cefnogi i wella a thyfu yn gyson.